Partneriaeth Pensiwn Cymru yn dyfarnu contractau Buddsoddi Eiddo Tirol
Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cyhoeddi'r diweddaraf yn ei chyfres o benodiadau i hwyluso gweithredu ei datrysiadau buddsoddi Marchnadoedd Preifat.
Bydd Partneriaeth Pensiwn Cymru yn sefydlu cynnig buddsoddi Eiddo Tirol wedi'i ddatblygu o amgylch tair colofn:
- Eiddo Tirol Craidd y DU, i gymryd buddsoddiadau presennol mewn cronfeydd ar y cyd a'u trosglwyddo, dros amser, i bortffolio buddsoddi mewn eiddo uniongyrchol penagored.
- Eiddo Tirol Rhyngwladol, i sefydlu cyfrwng buddsoddi penagored sy'n buddsoddi mewn cronfeydd ac asedau uniongyrchol, a hynny ar sail fyd-eang.
- Eiddo Tirol Lleol / Effaith i ddatblygu rhaglen fuddsoddi sy'n defnyddio buddsoddiadau mewn cronfeydd a buddsoddiadau mewn asedau uniongyrchol mewn strategaethau Effaith y DU, gydag o leiaf 50% o asedau wedi'u lleoli yng Nghymru.
Ar ôl cwblhau proses gaffael gyhoeddus drwyadl, gyda chefnogaeth bfinance a Hymans Robertson, mae Rheolwyr Buddsoddi Eiddo Tirol Preifat wedi cael eu penodi. Dyma'r rheolwyr a benodwyd
- Eiddo Tirol Craidd y DU – Schroders
- Eiddo Tirol Rhyngwladol – CBRE
- Eiddo Tirol Lleol / Effaith – Schroders
Dywedodd y Cynghorydd Elwyn Williams, Cadeirydd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu:
“Mae'r penodiadau hyn yn pennu'r mwyafrif o reolwyr buddsoddi marchnadoedd preifat ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru. Mae Eiddo Tirol yn ddosbarth o asedau craidd ar gyfer 8 o Awdurdodau Cyfansoddol Cymru a bydd y rheolwyr hyn yn darparu'r buddsoddiadau sydd eu hangen arnynt i fodloni eu dyraniadau asedau strategol lleol.”
Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cynnwys y cronfeydd canlynol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol: Caerdydd a Bro Morgannwg, Dinas a Sir Abertawe, Clwyd, Dyfed, Gwent Fwyaf (Torfaen), Gwynedd, Powys a Rhondda Cynon Taf.
Mae Waystone Management (UK) Limited yn cael ei ailbenodi fel gweithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru
Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn falch o gyhoeddi bod Waystone Management (UK) Limited (Waystone) wedi'i ailbenodi i weithredu'r gronfa. Ailbenodwyd Waystone yn weithredwr awdurdodedig yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn dilyn proses gaffael drylwyr gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru a'i hymgynghorwyr, Hymans Robertson a Burges Salmon.
Mae pob un o'r 8 Awdurdod Cyfansoddol yng Nghymru eisoes wedi buddsoddi ar y cyd mewn £13bn (fel ar ddiwedd mis Mawrth 2024) o asedau cyfunol gyda Waystone ar draws ystod o strategaethau buddsoddi.
Bydd Waystone, sef y Cyfarwyddwr Corfforaethol Awdurdodedig annibynnol mwyaf yn y DU, yn parhau i weithredu Cynllun Contractiol Awdurdodedig (cyfrwng buddsoddi cyfunol sy'n effeithlon o ran treth y DU) ar ran PPC. Mae gan y Cynllun Contractiol Awdurdodedig ddeg is-gronfa ar draws ecwitïau ac incwm sefydlog sy'n diwallu anghenion yr Awdurdodau, gan eu galluogi i weithredu eu strategaethau dyrannu asedau priodol. Gyda chefnogaeth Russell Investments, bydd Waystone yn parhau i gyflawni arbedion sylweddol o ran ffioedd.
Dywedodd Chris Moore, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin, 'Fel yr awdurdod cynnal ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru, rydym wrth ein bodd bod Waystone wedi bod yn llwyddiannus eto ac yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'r tîm’.
Dywedodd Karl Midl, Pennaeth Gwlad, y Deyrnas Unedig: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael ein hailbenodi i weithredu fel Gweithredwr i'r Cynllun Contractiol Awdurdodedig er budd cronfa fuddsoddi Partneriaeth Pensiwn Cymru. Mae ein partneriaeth barhaus yn dyst i'r gwasanaeth eithriadol y mae ein tîm wedi'i ddarparu dros y chwe blynedd a hanner diwethaf, ac edrychwn ymlaen at barhau i gefnogi anghenion Partneriaeth Pensiwn Cymru wrth iddynt hefyd barhau i esblygu a thyfu.”
Dywedodd Rachel Wheeler, Pennaeth Cynnyrch Byd-eang Regulated Fund Solutions: “Fel y chwaraewr mwyaf ym marchnad y DU, rydym yn dod â gwytnwch gweithredol heb ei ail, gan sicrhau gwasanaethau cadarn i'n cleientiaid. Mae gennym hanes hir a llwyddiannus o gydweithio â Phartneriaeth Pensiwn Cymru ac rydym yn gyffrous i archwilio cyfleoedd newydd i ehangu ein partneriaeth yn y blynyddoedd i ddod.”
Llofnodwr Cod Stiwardiaeth y DU
Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn parhau i fod yn un o lofnodwyr Cod Stiwardiaeth y DU.
https://www.frc.org.uk/investors/uk-stewardship-code/uk-stewardship-code-signatories
Mae Cod Stiwardiaeth y DU 2020 yn gosod safonau uchel ar gyfer stiwardiaeth ac mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn ceisio cyrraedd y safonau hyn drwy ei hagwedd at fuddsoddi cyfrifol. Rydym yn falch iawn, felly, ein bod wedi cadw ein statws llofnodwr ar gyfer 2023.
Roedd datblygu Is-Gronfeydd newydd yn ganolbwynt allweddol i'n gwaith dros y flwyddyn, gan gynnwys ein His-gronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy, a lansiwyd yn mis Gorffennaf 2023. Gwnaethon hefyd ehangu ein hystod o gronfeydd trwy benodi Dyrannwyr Marchnadoedd Preifat ar draws dyledion preifat, seilwaith a dosbarthiadau asedau ecwiti preifat, ac roeddem hefyd yn falch o ymestyn ein troshaen carbon isel i'n His-gronfa Cyfleoedd y DU.
Mae stiwardiaeth dros ein hasedau hefyd yn hollbwysig, gan weithio'n agos gyda Robeco a Russell Investments i sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed. Ar ein rhan, roedd Robeco wedi pleidleisio ar dros 15,000 o benderfyniadau ac wedi cynnal dros 200 o ymgysylltiadau corfforaethol ar draws 20 thema wahanol. Er mwyn hwyluso ein stiwardiaeth, rydym wedi datblygu Fframwaith Stiwardiaeth wedi'i ddiweddaru, sy'n rhoi ffocws ychwanegol ar y themâu a'r pynciau sydd o ddiddordeb i'n haelodau.
Er ein bod yn falch o'n cynnydd eleni, rydym yn cydnabod bod llawer mwy i'w wneud o hyd. Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi symud ymlaen â'r gwaith ar strategaeth uwchgyfeirio, ystyried ymhellach sut y gallwn ddatblygu stiwardiaeth yn well o fewn ein dyraniadau goddefol a diweddaru ein polisi benthyca stoc i sicrhau ein bod yn pleidleisio ar ein holl gyfranddaliadau. Gwnaethom hefyd gwblhau ein Hadroddiad Hinsawdd Cymru Gyfan cyntaf, yr ydym yn disgwyl ei gyhoeddi cyn bo hir.
Rydym yn dal i fod yn falch o'n hunaniaeth fel cronfa, lle byddwn yn parhau i ddatblygu ar y cyd â phob un o'r wyth Awdurdod Cyfansoddol yng Nghymru - ac aelodau eu cynlluniau pensiwn - i fod yn stiwardiaid effeithiol o'u hasedau.
Partneriaeth Pensiwn Cymru yn buddsoddi yn natblygiad Parciau Ynni gwynt ar y tir yng Nghymru
Bydd Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn buddsoddi tua £68m i ddatblygu Parciau Ynni gwynt ar y tir yng Nghymru, gan ddarparu buddsoddiadau moesegol, a chyfrannu at lesiant cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru - yn ogystal â chyrraedd targedau Llywodraeth Cymru ar berchnogaeth leol a chydberchnogaeth ar brosiectau ynni adnewyddadwy.
Bydd y prosiect hwn yn helpu i ddarparu ynni gwyrdd glân i bobl Cymru a thu hwnt, gan fynd i'r afael â rhai o heriau mwyaf y genhedlaeth hon ac yn helpu i greu byd gwell ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd y buddsoddiad hwn yn cyfrannu at dargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer trydan i fod yn 100% adnewyddadwy erbyn 2035 ac yn cyfrannu at dargedau ar gyfer 1GW o drydan adnewyddadwy a chapasiti gwres i fod yn eiddo lleol erbyn 2030.
Ar ol eu gweithredu, mae disgwyl i'r Parciau Ynni ddarparu tua £800m o Gyllid Budd Cymunedol i'r cymunedau sy'n byw agosaf at y prosiectau a byddant yn cynhyrchu digon o drydan glân, gwyrdd i wrthbwyso mwy na 2.6 miliwn tunnell o allyriadau CO2 y flwyddyn - sy'n cyfateb i oddeutu 7% o gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru.
Waystone Group yn prynu busnes a rhai asedau Link Fund Solutions Limited
Ar 9 Hydref 2023, prynwyd busnes a rhai asedau Link Fund Solutions Limited gan Waystone Management (UK) Limited (WMUK), sy'n rhan o Grŵp Waystone. Mae hyn yn golygu mai WMUK bellach yw gweithredwr cynllun contractiol awdurdodedig Partneriaeth Pensiwn Cymru. Nid yw hyn yn effeithio ar wasanaethau’r gweithredwyr a fydd yn cael eu darparu gan WMUK ar gyfer gweddill tymor y contract gweithredwr presennol. Mae tîm perthynas Partneriaeth Pensiwn Cymru yn parhau heb newid.
Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn lansio is-gronfa Ecwiti Gweithredol Byd-eang Cynaliadwy newydd
Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru ('PPC'), sy'n cyfuno wyth Cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Cymru, wedi lansio is-gronfa Ecwiti Gweithredol Byd-eang Cynaliadwy ar ei phlatfform Cynllun Contractiol Awdurdodedig presennol. Mae'r lansiad yn gwella'r dewis sydd ar gael i awdurdodau cyfansoddol PPC ymhellach ac yn cyd-fynd â'u hamcanion cynaliadwyedd sy'n datblygu.
Mae'r is-gronfa newydd wedi lansio gyda £1.2bn. Mae pob un o wyth Cronfa Cymru yn cymryd rhan a bydd Russell Investments yn rheoli ateb ecwiti gweithredol cynaliadwy aml-reolwr amrywiol sydd wedi'i greu yn ôl gofynion pwrpasol PPC. Mae'r ateb yn cynnwys pum arbenigwr o safon uchel (Sparinvest, Mirova, Neuberger Berman, Wellington a Artemis) a nodwyd ac a aseswyd gan fframwaith ymchwil berchnogol Russell Investments i sicrhau bod cynigion cynaliadwy ac addas yn cael eu cynnwys.
Mae'r ateb hefyd yn cynnig yr hyblygrwydd i ddatblygu wrth i ofynion PPC newid, neu wrth i'r dirwedd gynaliadwy barhau i ddatblygu, gan ddefnyddio galluoedd Gweithredu Portffolio Gwell Russell Investments – seilwaith sy'n galluogi newidiadau wedi'u haddasu ac effeithlon i'r is-gronfa gyda phroses rheoli portffolio ganolog.
Mae Link Fund Solutions, a benodwyd gan PPC fel gweithredwr a awdurdodwyd gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn 2018, yn gyfrifol am greu a gweithredu'r is-gronfa newydd. Cafodd Russell Investments ei benodi gyntaf fel darparwr atebion rheoli buddsoddiadau PPC yn 2018.
Wrth sôn am lansio'r is-gronfa, dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru:
“Uchelgais tymor hir PPC yw dangos arweinyddiaeth o ran cynaliadwyedd ac arferion buddsoddi cyfrifol ar gyfer ac ar ran yr Awdurdodau Cyfansoddol. Mae'r is-gronfa newydd hon yn cefnogi'r uchelgeisiau hyn o ran sicrhau manteision ariannol a manteision cynaliadwyedd ehangach i'r Awdurdodau, a'u haelodau.
Ychwanegodd Jim Leggate, Pennaeth Gwerthu a Chleientiaid EMEA yn Russell Investments:
“Rydym yn falch iawn o fod wedi cefnogi Partneriaeth Pensiwn Cymru ar ei thaith tuag at gyflawni ei hamcanion ariannol a chynaliadwy hirdymor. Mae ein hateb pwrpasol yn cysylltu â chyfres amrywiol o strategaethau o'r radd flaenaf a fydd ar yr un pryd yn elwa ar y newid i fyd mwy cynaliadwy ac yn cyfrannu ato. Mae'r penodiad yn adeiladu ar brofiad helaeth Russell Investments wrth ddylunio a rheoli atebion cynaliadwy i'n cleientiaid.”
Ychwanegodd Karl Midl, Prif Swyddog Gweithredol Link Fund Solutions:
“Fel Gweithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru, rydym yn falch iawn o lansio a goruchwylio'r is-gronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy newydd. Rydym yn cydnabod bod cynaliadwyedd yn rhan gynyddol bwysig o'r broses fuddsoddi ac rydym yn falch o gefnogi Partneriaeth Pensiwn Cymru i gyflawni ei hamcanion buddsoddi cyfrifol.”
Y DIWEDD
I gael rhagor o wybodaeth:
partneriaethpensiwncymru@sirgar.gov.uk
Rhestr o'r Awdurdodau Cyfansoddol
- Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg
- Cronfa Bensiwn Clwyd
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Cronfa Bensiwn Gwent Fwyaf (Torfaen)
- Cronfa Bensiwn Gwynedd
- Cronfa Bensiwn Powys
- Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf
- Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe
Gwybodaeth am PPC
Sefydlwyd Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn 2017. Mae PPC yn gyfuniad o wyth cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Cyfansoddol) sy'n cwmpasu Cymru gyfan ac yn un o wyth cronfa genedlaethol Pensiwn Llywodraeth Leol.
Mae ganddi hanes hir, llwyddiannus o gydweithio, gan gynnwys enghreifftiau cyn menter gyfuno'r Llywodraeth. Mae'n falch o'i hunaniaeth unigryw fel cronfa – mae ei Hawdurdodau Cyfansoddol yn cynrychioli ac yn rhychwantu Cymru gyfan. Mae bod yn atebol yn ddemocrataidd yn golygu ei bod yn darparu'r drefn orau o lywodraethu sector cyhoeddus mewn modd tryloyw.
Mae model gweithredu PPC wedi'i ddylunio i fod yn hyblyg ac i roi gwerth am arian. Penododd Weithredwr allanol ac mae'n defnyddio ymgynghorwyr allanol i gael yr arbenigedd gorau i gefnogi'r modd y mae'r Gronfa'n cael ei rhedeg. Link Fund Solutions yw'r Gweithredwr ac mae wedi ymuno â Russell Investments i reoli buddsoddiadau a helpu i leihau costau rheoli buddsoddi ar gyfer yr holl Awdurdodau Cyfansoddol.
Llofnodwr Cod Stiwardiaeth y DU
Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn parhau i fod yn un o lofnodwyr Cod Stiwardiaeth y DU.
https://www.frc.org.uk/investors/uk-stewardship-code/uk-stewardship-code-signatories
Mae Cod Stiwardiaeth y DU 2020 yn gosod safonau uchel ar gyfer stiwardiaeth ac mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn ceisio cyrraedd y safonau hyn drwy ei hagwedd at fuddsoddi cyfrifol. Rydym yn falch iawn, felly, ein bod wedi cadw ein statws llofnodwr ar gyfer 2022.
Rydym wedi bod yn canolbwyntio ar atgyfnerthu yn ystod y flwyddyn, gan adolygu ein polisïau buddsoddi cyfrifol ac adeiladu ar ein prosesau i sicrhau y gall ein trefniant cyfuno ddiwallu anghenion ein buddiolwyr yn well. Mae mwy o ffocws wedi cael ei roi ar oruchwylio a herio ein darparwyr eleni, gan gynnwys archwilio'n ddwfn y risg hinsawdd a'r risgiau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu yn ein his-gronfeydd. Ar ein rhan, mae Robeco wedi pleidleisio ar dros 10,500 o wahanol benderfyniadau ac wedi ymgysylltu â 280 o gwmnïau unigol. Mae ein ffocws ein hunain ar newid yn yr hinsawdd yn cael ei adlewyrchu'n gryf mewn nifer o themâu ymgysylltu Robeco ac rydym yn parhau i chwilio am feysydd lle credwn ein bod yn cefnogi newid yn y byd go iawn.
Rydym yn cydnabod bod llawer mwy i'w wneud o hyd ac, yn ystod y 12 mis diwethaf, wedi pennu adnodd buddsoddi cyfrifol penodol i'n helpu i adeiladu ar ein hymrwymiadau buddsoddi cyfrifol a bodloni gofynion rhanddeiliaid. Rydym hefyd wedi datblygu strategaeth Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy ac amrywiaeth o gronfeydd Marchnadoedd Preifat, lle mae ystyried stiwardiaeth a risg hinsawdd wedi bod yn ganolbwynt. Rydym hefyd yn canolbwyntio ar werthuso a chyfleu'r cynnydd y mae Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi helpu i'w wneud ar newid yn yr hinsawdd dros y blynyddoedd diwethaf.
Rydym yn dal i fod yn falch o'n hunaniaeth fel cronfa, lle byddwn yn parhau i ddatblygu ar y cyd â phob un o'r wyth Awdurdod Cyfansoddol yng Nghymru - ac aelodau eu cynlluniau pensiwn - i fod yn stiwardiaid effeithiol o'u hasedau.
Partneriaeth Pensiwn Cymru yn penodi Schroders Capital
Heddiw mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cyhoeddi'r diweddaraf yn ei chyfres o benodiadau i hwyluso gweithredu ei hatebion buddsoddi marchnadoedd preifat ar y cyd.
Bydd Schroders Capital yn datblygu rhaglen buddsoddi ecwiti preifat ar y cyd ar gyfer PPC i ddiwallu anghenion yr awdurdodau cyfansoddol yn y dosbarth asedau.
Mae'r penodiad yn dilyn proses gaffael drylwyr a gynhaliwyd gan PPC ar y cyd â'r ymgynghorwyr buddsoddi, bfinance. Bydd y datblygiad yn galluogi mynediad effeithlon ac effeithiol at ddosbarth asedau caeth, sydd wedi bod yn ddaliad i gronfeydd CPLlL ers blynyddoedd lawer, ond mae hynny'n creu heriau o ran mynediad, cost a llywodraethu i fuddsoddwyr cronfa bensiwn sengl hyd nes y sicrheir maint.
Chris Moore, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin (Awdurdod Cynnal Partneriaeth Pensiwn Cymru):
“Mae ecwiti preifat wedi bod yn ddaliad pwysig i awdurdodau cyfansoddol PPC ond, yn hanesyddol, mae wedi bod yn heriol cael mynediad ato mewn modd cost-effeithiol. Mae cyfuno yn cynnig cyfle i fynd i'r afael â hyn. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n partneriaid newydd i ymateb i'r her hon a chyflawni gwaith buddsoddi ecwiti preifat effeithlon ac effeithiol ar gyfer y tymor hir.”
Partneriaeth Pensiwn Cymru yn dyfarnu contractau buddsoddi Marchnadoedd Preifat
Heddiw, mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cyhoeddi cyfres o benodiadau i hwyluso'r gwaith o weithredu ei atebion buddsoddi mewn Seilwaith Cyfun a Dyledion Preifat.
Bydd Russell Investments yn datblygu rhaglen buddsoddi mewn dyledion preifat cyfun PPC, bydd GCM Grosvenor yn gweithredu buddsoddiadau seilwaith pengaead a bydd seilwaith penagored yn cael ei fuddsoddi drwy Gronfa Seilwaith Byd-eang CBRE, Cronfa Seilwaith Byd-eang IFM ac SCSp Seilwaith Ynni Adnewyddadwy Octopus.
Mae'r penodiadau'n dilyn proses gaffael drylwyr sy'n cael ei rhedeg gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru gyda'r cwmni ymgynghori buddsoddi bfinance. Bydd y datblygiad yn galluogi mynediad effeithlon ac effeithiol i ddosbarthiadau asedau amgen sy'n prysur ddod yn ddaliadau sylweddol ar gyfer cronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Cafodd Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru ei sefydlu yn 2017 ac mae'n gyfrifol am oruchwylio'r gronfa, sefydliadau partner, a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu i gronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru.
Cyngor Sir Caerfyrddin yw'r Awdurdod Cynnal, gan gysylltu o ddydd i ddydd â phartneriaid allanol y Gronfa ar ran holl gronfeydd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru.
Chris Moore, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin (Awdurdod Cynnal Partneriaeth Pensiwn Cymru):
“Yn hanesyddol, mae wedi bod yn heriol cael mynediad at ddosbarthiadau asedau amgen mewn modd cost-effeithiol. Mae cyfuno yn cynnig cyfle i fynd i'r afael â'r her hon. Mae gan gronfeydd cyfansoddol y PPC alw strategol cynyddol am y buddsoddiadau hyn, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'n partneriaid newydd i ateb y galw hwn.”
PPC yn ennill Gwobr Cronfa'r Flwyddyn yng Ngwobrau Buddsoddiadau Fforwm Cronfeydd Pensiwn yr Awdurdodau Lleol 2021
Mae'n fraint cyhoeddi ein bod wedi llwyddo i ennill Cronfa'r Flwyddyn yng Ngwobrau Buddsoddiadau Fforwm Cronfeydd Pensiwn yr Awdurdodau Lleol 2021, a gynhaliwyd yn Llundain ar 29 Mawrth 2022.
Hoffem ddiolch i bob un o'r 8 cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru a'n darparwyr allanol am eu cefnogaeth barhaus, ein rhanddeiliaid a phawb sy'n gysylltiedig â rheoli a darparu gwasanaeth rhagorol i'r Cynllun.
Llofnodwr Cod Stiwardiaeth y DU
Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) bellach yn un o lofnodwyr Cod Stiwardiaeth y DU.
https://www.frc.org.uk/investors/uk-stewardship-code/uk-stewardship-code-signatories
Mae Cod Stiwardiaeth y DU 2020 yn gosod safonau uchel ar gyfer stiwardiaeth ac mae PPC wedi ceisio cyrraedd y safonau hyn drwy ei hagwedd at fuddsoddi cyfrifol. Felly, mae PPC yn falch iawn o gael ei chydnabod fel un o lofnodwyr y Cod.
Roedd ein hadroddiad ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021 yn ymwneud â'r cam cyntaf ar daith PPC, sef blwyddyn pan osodwyd sylfeini cadarn drwy benodi Robeco yn ddarparwr stiwardiaeth, sefydlu ein His-grŵp Buddsoddi Cyfrifol a dechrau'r broses o sicrhau bod ein hymrwymiadau polisi yn cael eu rhoi ar waith. Buom hefyd yn gweithio'n agos gyda Link Fund Solutions a Russell Investments yn ystod y flwyddyn i ddatblygu a gweithredu strategaeth ddatgarboneiddio arloesol ar gyfer ein Cronfa Cyfleoedd Byd-eang, ac ers hynny rydym wedi ceisio ymestyn y broses hon i'n His-gronfeydd eraill.
Rydym yn cydnabod bod llawer mwy i'w wneud ond rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynyddu ein dealltwriaeth o arferion buddsoddi cyfrifol a datblygu ein dull gweithredu. Dysgodd y broses adrodd lawer i ni ac rydym eisoes wedi cymryd camau i weithredu rhai o'r gwersi hynny, er enghraifft, drwy graffu'n fwy ar ein darparwyr a'r asedau y maent yn eu rheoli ar ein cyfer. Rydym yn gwneud hyn gan gydnabod bod gan PPC gyfrifoldeb i bob un o'r wyth Awdurdod Cyfansoddol yng Nghymru, ac aelodau eu cynlluniau pensiwn, i fod yn stiwardiaid effeithiol o'u hasedau.
Datganiad ar argyfwng Rwsia / Wcráin
Datganiad gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru a'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru
Mae'r sefyllfa yn Wcráin yn peri tristwch mawr i ni ac rydym yn meddwl am bobl Wcráin.
Mae cyfanswm ein cysylltiad â Buddsoddiadau Rwsiaidd yn fach iawn ac yn llai nag 1%. Er hynny, yng ngoleuni'r digwyddiadau ofnadwy yr ydym wedi'u gweld a'r sancsiynau economaidd a osodwyd yn rhyngwladol, rydym wedi penderfynu'n gyfunol y dylid dadfuddsoddi o'r daliannau hyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl.
O ystyried yr amgylchiadau, nid ydym yn credu bod ymwneud â'r cwmnïau hyn yn opsiwn posibl.
Y Cynghorydd Clive Lloyd
Ar gyfer ac ar ran Partneriaeth Pensiwn Cymru a'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru
Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn lansio Cronfa Ecwiti Marchnadoedd Datblygol
Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn falch o gyhoeddi bod Cronfa Ecwiti Marchnadoedd Datblygol Partneriaeth Pensiwn Cymru LF wedi'i lansio ar 20 Hydref 2021 ag Asedau Dan Reolaeth o £505m. Mae Link Fund Solutions Limited, fel Gweithredwr y Gronfa, wedi penodi Russell Investments Limited, darparwr atebion buddsoddi, yn Rheolwr Portffolio'r strategaeth aml-reolwr. Bydd y Gronfa'n trosoli fframwaith Gweithredu Portffolio Manylach (EPI) Russell Investments i leihau lefelau cyfanredol masnachu a darparu gwell trefniadau llywodraethu a rheolaeth i Bartneriaeth Pensiwn Cymru o safbwynt materion Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu. Nod y Gronfa yw lleihau'r ôl troed carbon a chronfeydd carbon ar lefel Is-gronfeydd, gan dargedu 25% yn is na Mynegai EM MSCI.
Mae'r is-ddirprwyon yn cynnwys: Artisan Partners, Axiom International Investors, Bin Yuan Capital, Barrow Hanley Global Investors, Numeric Investors ac Oaktree Capital Management.
Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn lansio menter ddatgarboneiddio
Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru ('PPC'), sy'n cyfuno wyth Cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Cymru, wedi cyflwyno menter ddatgarboneiddio newydd ar draws ei hasedau ecwiti byd-eang gwerth £2.5bn a reolir gan Russell Investments.
Yn sgil hyn, bydd mandad ecwiti byd-eang PPC yn sicrhau gostyngiad wedi'i dargedu o 25% o ran ei ôl troed carbon a'i gronfeydd tanwydd ffosil o'i gymharu â'i feincnod (Mynegai Byd Pob Gwlad MSCI). Bydd y portffolio hefyd yn gwahardd cwmnïau sy'n dibynnu ar lo i greu refeniw.
Mae PPC yn defnyddio seilwaith Gweithredu Portffolio Manylach (EPI) Russell Investments i gyflawni ei thargedau datgarboneiddio.
Mae EPI yn defnyddio proses masnachu a rheoli portffolio ganolog lle mae Russell Investments yn gyfrifol am weithredu strategaethau buddsoddi rheolwyr cronfeydd sylfaenol PPC. Drwy'r fframwaith hwn, mae PPC yn gallu elwa ar gael mwy o reolaeth dros amcanion datgarboneiddio ac o ran addasu, yn ogystal ag amcanion eraill sy'n gysylltiedig â ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu (ESG). Hefyd, mae EPI yn ceisio sicrhau arbedion effeithlonrwydd masnach drwy ostyngiadau sylweddol mewn gweithgarwch masnachu.
Mae'r fenter ddatgarboneiddio yn gam cadarnhaol tuag at nodau PPC sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd a'i nodau ehangach o ran ESG.
Wrth sôn am lansio'r fenter ddatgarboneiddio newydd, mae'r Cynghorydd Glyn Caron, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru yn dweud:
“Yn ogystal â chreu heriau sylweddol i gymdeithas, mae newid yn yr hinsawdd yn creu risg ariannol i'n Hawdurdodau Cyfansoddol ac aelodau'r cynllun. Drwy leihau'r amlygiad i garbon yn ein hasedau ecwiti gweithredol, mewn partneriaeth â Russell Investments, rydym yn ceisio mynd i'r afael â'r heriau hyn. Credwn fod hwn yn gam cyntaf cadarnhaol tuag at gyflawni ein nodau cynaliadwyedd hirdymor."
Mae Jim Leggate, Rheolwr Gyfarwyddwr, Busnesau Sefydliadol y DU a'r Dwyrain Canol yn Russell Investments, hefyd yn dweud:
"Mae materion sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd a'r broses o drosglwyddo i economi carbon isel yn faterion cynyddol bwysig y mae perchnogion asedau sefydliadol yn ceisio mynd i'r afael â nhw. Rydym yn falch o gefnogi PPC o ran ei nod i leihau carbon fel rhan o fframwaith ehangach sy'n ceisio adlewyrchu anghenion datblygol ei haelodau. Drwy ein fframwaith Gweithredu Portffolio Manylach, rydym mewn sefyllfa dda i ddarparu ateb wedi'i addasu sy'n gyfannol, yn effeithlon ac yn isel ei gost ac sy'n datblygu yn ôl nodau cynaliadwyedd hirdymor cyfunol Awdurdodau Cyfansoddol PPC.”
Mae Eamonn Gough, Uwch-reolwr Cysylltiadau yn Link Fund Solutions, yn ychwanegu:
“Fel perchennog asedau ymroddedig, mae PPC yn deall mor hanfodol bwysig ydyw i gefnogi'r broses o drosglwyddo i economi carbon isel. Mae'r fframwaith gweithredu manylach sy'n cael ei ddefnyddio yn gallu cadw'r rheolwyr sylfaenol presennol a'r strwythur gweithredu eang yn ogystal â galluogi PPC i sicrhau gostyngiad yng nghyfanswm y buddsoddiadau carbon yn y portffolio."
Y DIWEDD
Rhagor o wybodaeth:
partneriaethpensiwncymru@sirgar.gov.uk
Nodyn i Olygyddion:
* Rhestr o'r Awdurdodau Cyfansoddol
- Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg
- Cronfa Bensiwn Clwyd
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Cronfa Bensiwn Torfaen
- Cronfa Bensiwn Gwynedd
- Cronfa Bensiwn Powys
- Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf
- Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe
Gwybodaeth am Bartneriaeth Pensiwn Cymru
Sefydlwyd Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn 2017. Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn gyfuniad o wyth cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Cyfansoddol) sy'n cwmpasu Cymru gyfan ac yn un o wyth cronfa genedlaethol Pensiwn Llywodraeth Leol.
Mae ganddi hanes hir, llwyddiannus o gydweithio, gan gynnwys enghreifftiau cyn menter gyfuno'r Llywodraeth. Mae'n falch o'i hunaniaeth unigryw fel cronfa – mae ei Hawdurdodau Cyfansoddol yn cynrychioli ac yn rhychwantu Cymru gyfan. Mae bod yn atebol yn ddemocrataidd yn golygu ei bod yn darparu'r drefn orau o lywodraethu sector cyhoeddus mewn modd tryloyw.
Mae model gweithredu Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi'i ddylunio i fod yn hyblyg ac i roi gwerth am arian. Roedd wedi penodi Gweithredwr allanol ac mae'n defnyddio ymgynghorwyr allanol i gael yr arbenigedd gorau i gefnogi'r modd y mae'r Gronfa'n cael ei rhedeg. Link Fund Solutions yw'r Gweithredwr ac mae wedi ymuno â Russell Investments i reoli buddsoddiadau a helpu i leihau costau rheoli buddsoddi ar gyfer yr holl Awdurdodau Cyfansoddol.
PPC yn ennill y Wobr Arloesedd yng Ngwobrau Buddsoddi Fforwm Cronfeydd Pensiwn yr Awdurdodau Lleol (LAPF) 2020
Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill y Wobr Arloesedd yng Ngwobrau Buddsoddi Fforwm Cronfeydd Pensiwn yr Awdurdodau Lleol (LAPF) 2020.
Yn debyg i gronfeydd eraill, aethom ati i fabwysiadu dull aml-reolwr o adeiladu cronfeydd, er mwyn sicrhau'r adenillion cryfaf posibl a addaswyd yn ôl risg a sicrhau arbedion sylweddol. Fodd bynnag, mae'r wobr hon yn cydnabod ein bod wedi gwneud cam sylweddol o ran arloesi, gan fabwysiadu fframwaith "Gweithredu Portffolio Manylach" (EPI) o fewn ein cronfeydd ecwiti.
Wedi'i reoli gan Russell Investments (o fewn strwythur ein cronfa ACS sy'n cael ei gynnal gan Link Fund Solutions), mae EPI yn dwyn ynghyd nifer o bortffolios rheolwyr ecwiti yn un portffolio cyfannol. Er bod hwn yn gam newydd i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, mae hyn yn defnyddio technoleg sydd wedi'i phrofi ac yn cynnwys dau fudd sylweddol i'n hawdurdodau cynnal:
- Arbedion cost ystyrlon sy'n ychwanegol at yr arbedion o ran ffioedd y rheolwr a gyflawnwyd eisoes;
- Gwell Llywodraethu o safbwynt ESG: rydym wedi cymryd camau i ddefnyddio ~25% yn llai o garbon a hynny heb effeithio ar y buddsoddiadau. Mae hyn yn gam cadarn iawn o ran cefnogi gwaith ein hawdurdodau gweinyddu o ran eu nodau datgarboneiddio.
Nid yn unig y mae hyn wedi bod yn gam cadarn i'n haelodau, ond credwn fod y cam hwn hefyd yn dangos y gall cyfuno'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol fynd y tu hwnt i drafodaethau am ffioedd rheolwr, a chael mynediad at ail haen o arbedion costau a gwell llywodraethu.
Partneriaeth Pensiwn Cymru yn lansio llwyfan incwm sefydlog
Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC), y Gronfa ar gyfer wyth cronfa Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, wedi lansio cyfres o gronfeydd incwm sefydlog ar ei llwyfan ACS presennol i ddarparu dewis o is-gronfeydd i weithredu eu buddsoddiadau incwm sefydlog yn seiliedig ar eu dyraniadau asedau strategol. Bydd pob un o'r wyth awdurdod cyfansoddol* yn buddsoddi mewn o leiaf un o'r is-gronfeydd hyn.
Bydd y buddsoddiadau newydd yn cynnwys pum is-gronfa sy'n canolbwyntio ar gredyd byd-eang, bondiau llywodraeth byd-eang, bondiau adenillion absoliwt, credyd aml-ased a chredyd y DU. Ar wahân i gredyd y DU, bydd y bedair is-gronfa arall yn cael eu rheoli gan Russell Investments ac yn defnyddio amrywiaeth o reolwyr incwm sefydlog cyffredinol ac arbenigol i sicrhau adenillion gwell wedi'u haddasu yn ôl risg.
Mae Link Fund Solutions, a benodwyd gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru fel gweithredwr a awdurdodwyd gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn 2018, yn gyfrifol am greu a gweithredu strwythur y llwyfan incwm sefydlog newydd.
Bydd strategaeth gredyd un rheolwr y DU yn lansio gyda £550 miliwn a bydd y bedair is-gronfa a reolir gan Russell Investments yn amrywio o ran maint rhwng £430 miliwn a £780 miliwn.
Wrth sôn am lansio'r llwyfan incwm sefydlog newydd, mae'r Cynghorydd Glyn Caron, Cadeirydd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu yn dweud:
"Wrth i farchnadoedd buddsoddi ddod yn fwy cymhleth, rydym yn cydnabod bod angen atebion buddsoddi mwy soffistigedig i gyflawni amcanion hirdymor ein hwyth Awdurdod Cyfansoddol*. Gan weithio gyda Russell Investments a Link Fund Solutions, credwn y bydd yr arian hwn yn rhoi'r gallu i ni sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar farchnadoedd incwm sefydlog wrth gyflawni ein hamcanion i wella arallgyfeirio a lleihau ein costau”.
Mae Jim Leggate, Rheolwr Gyfarwyddwr, Sefydliad y DU a'r Dwyrain Canol yn Russell Investment, hefyd yn dweud:
“Rydym yn falch iawn o ehangu ein perthynas â Phartneriaeth Pensiwn Cymru yn dilyn ein penodiad gwreiddiol yn 2018 fel y darparwr atebion rheoli buddsoddi. Gyda'r lansiad hwn, rydym bellach yn gyfrifol am reoli £5.2 biliwn o asedau Partneriaeth Pensiwn Cymru ar draws ecwitïau ac incwm sefydlog. Mae'r cynnydd rydym i gyd wedi'i wneud hyd yn hyn yn dyst i gydweithrediad gwych llawer o unigolion ar draws yr wyth awdurdod cyfansoddol*, gan gynnwys swyddogion, aelodau a'u hymgynghorwyr.”
Mae Eamonn Gough, Uwch-reolwr Cysylltiadau yn Link Fund Solutions yn ychwanegu:
“Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn deall yr angen i ddefnyddio ateb buddsoddi soffistigedig i gyflawni ei hamcanion buddsoddi mewn amgylchedd marchnad heriol. Credwn fod y llwyfan hwn yn bodloni'r gofynion hyn ac yn caniatáu i Bartneriaeth Pensiwn Cymru gael gafael ar arbenigedd rhai o brif reolwyr incwm sefydlog y byd.”
Y DIWEDD
Rhagor o wybodaeth:
partneriaethpensiwncymru@sirgar.gov.uk
Nodyn i Olygyddion:
* Rhestr o'r Awdurdodau Cyfansoddol
- Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg
- Cronfa Bensiwn Clwyd
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Cronfa Bensiwn Torfaen
- Cronfa Bensiwn Gwynedd
- Cronfa Bensiwn Powys
- Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf
- Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe
Gwybodaeth am PPC
Sefydlwyd Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn 2017. Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn gyfuniad o wyth cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Cyfansoddol) sy'n cwmpasu Cymru gyfan ac yn un o wyth cronfa genedlaethol Pensiwn Llywodraeth Leol.
Mae ganddi hanes hir a llwyddiannus o gydweithio, gan gynnwys enghreifftiau cyn menter gyfuno'r Llywodraeth. Mae'n falch o'i hunaniaeth unigryw fel Cronfa – mae ei Hawdurdodau Cyfansoddol yn cynrychioli ac yn rhychwantu Cymru gyfan. Mae bod yn atebol yn ddemocrataidd yn golygu ei bod yn darparu'r drefn orau o lywodraethu sector cyhoeddus mewn modd tryloyw.
Mae model gweithredu Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi'i ddylunio i fod yn hyblyg ac i roi gwerth am arian. Roedd wedi penodi Gweithredwr allanol ac mae'n defnyddio ymgynghorwyr allanol i gael yr arbenigedd gorau i gefnogi'r modd y mae'r Gronfa'n cael ei rhedeg. Link Fund Solutions yw'r Gweithredwr ac mae wedi ymuno â Russell Investments i reoli buddsoddiadau a helpu i leihau costau rheoli buddsoddi ar gyfer yr holl Awdurdodau Cyfansoddol.
Diweddariad blynyddol cyntaf Partneriaeth Pensiwn Cymru
Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn falch o gyflwyno ei diweddariad blynyddol cyntaf. Mae’r cynnydd a wnaed dros y 12 mis diwethaf yn adlewyrchu gallu’r wyth awdurdod cyfansoddol yng Nghymru i gydweithio i gyflawni cyfres o amcanion a rennir. Cyrhaeddwyd cerrig milltir arwyddocaol yn ystod y flwyddyn ac mae’n braf iawn gweld bod y cerrig milltir hyn wedi’u hymestyn dros amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys buddsoddiadau, llywodraethu, cyfathrebu a hyfforddiant. Gellir gweld y diweddariad blynyddol o dan yr adran Cyhoeddiadau, cliciwch yma.
Partneriaeth Pensiwn Cymru yn penodi Hymans Robertson fel ei Hymgynghorydd Goruchwyliaeth
Rydym yn falch iawn o roi gwybod i chi bod Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) wedi penodi Hymans Robertson LLP yn ffurfiol i fod yn Ymgynghorydd Goruchwyliaeth PPC. Mae rôl Hymans Robertson yn cynnwys goruchwylio a chynghori ar drefniadau llywodraethu, gwasanaethau gweithredwyr, agweddau ar fuddsoddi strategol a chymorth rheoli prosiectau.
Yn dilyn ymarfer caffael manwl, penododd PPC Hymans Robertson ar 1 Ionawr 2020. Bydd y contract am 3 blynedd gyda’r posibilrwydd o estyniad am 2 blynedd arall. Roedd profiad llwyddiannus Hymans Robertson o roi cyngor penodol ynghylch strategaethau buddsoddi i Gynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol wedi gwneud argraff ar PPC, yn ogystal â'i wybodaeth am farchnad gweithredwyr y Cynllun Contractiol Awdurdodedig a'i brofiad ohoni. Hefyd, roedd yn gallu dangos tystiolaeth o'i gryfder o ran gwasanaethau llywodraethu ym maes buddsoddi a rheoli prosiectau.
Mae PPC yn llawn cyffro am gam nesaf ei thaith, lle bydd yn canolbwyntio ar gyflwyno’r manteision o gyfuno i'w rhanddeiliaid allweddol. Mae'r penodiad hwn yn adlewyrchu hyder PPC yng ngallu Hymans Robertson i gefnogi PPC yn y cam nesaf o'r daith hon.
Cadwch lygad ar y wefan i weld Cynllun Busnes PPC a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir, sy'n amlinellu'r gwaith cyffrous ac uchelgeisiol y bydd y PPC yn ei wneud dros y tair blynedd nesaf. Mae'r Cynllun Busnes wedi cael ei lunio gyda chymorth gan Hymans Robertson ac mae'n cynrychioli blaenoriaethau ac amcanion unedig yr wyth Awdurdod Cyfansoddol yng Nghymru.
Partneriaeth Pensiwn Cymru yn penodi Robeco UK fel ei darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu
Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn falch o gyhoeddi ei bod wedi penodi Robeco UK, cangen o Robeco Institutional Asset Management B.V (‘Robeco’), fel darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu PPC. Penodwyd Robeco ar ôl cwblhau ymarfer caffael cynhwysfawr. Bydd contract Robeco yn dechrau ar 1 Ebrill 2020 a bydd yn weithredol am gyfnod cychwynnol o 3 blynedd gyda'r posibilrwydd o estyniad am 2 flynedd.
Bydd Robeco yn cynorthwyo PPC i lunio a chynnal Polisi Pleidleisio ac Egwyddorion Ymgysylltu sy'n gydnaws ag aelodaeth Awdurdodau Cyfansoddol Cymru o Fforwm Cronfeydd Pensiwn yr Awdurdodau Lleol.
Cyfrifoldeb Robeco fydd helpu PPC i lunio ei Pholisi Pleidleisio. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gyflawni mewn cydweithrediad â'r wyth Awdurdod Cyfansoddol yng Nghymru dros y chwe mis nesaf. Yn dilyn hyn, bydd Robeco yn gyfrifol am weithredu'r Polisi Pleidleisio ar draws portffolio ecwiti gweithredol PPC gwerth £5bn ac adrodd i PPC a'r cronfeydd gwaelodol.
Yn ogystal, bydd Robeco yn cynorthwyo PPC i lunio ei Hegwyddorion Ymgysylltu a bydd yn cyflawni gwaith ymgysylltu ar ran PPC yn unol â'r egwyddorion y cytunwyd arnynt. Fel rhan o faes gorchwyl Robeco, bydd yn manteisio ar brofiad llwyddiannus PPC o weithio gyda phartneriaid, llunwyr polisi a rheoleiddwyr tebyg i sicrhau bod PPC yn cyflawni'r canlyniadau ymgysylltu mwyaf effeithiol. Bydd Robeco hefyd yn darparu adroddiadau a hyfforddiant ar weithgareddau ymgysylltu PPC ar lefel y gronfa ac ar lefel awdurdod cyfansoddol.
Bydd PPC yn cyhoeddi ei Pholisi Pleidleisio a'i Hegwyddorion Ymgysylltu ar y wefan hon ar ôl iddynt gael eu cwblhau.
Mae PPC o'r farn y dylai buddsoddi cyfrifol ynghyd ag ystyriaeth a rheolaeth dystiolaethol o faterion Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu arwain at well canlyniadau i randdeiliaid PPC. Mae penodiad Robeco yn dangos bod PPC yn parhau i gyflawni'r ymrwymiadau a wnaed yn ei Pholisi Buddsoddiad Cyfrifol a'i hadduned i arfer ei hawliau pleidleisio yn unol â buddion ei rhanddeiliaid ac i ymgysylltu â chwmnïau buddsoddi i wella gwerth hirdymor buddsoddiadau'r Awdurdodau Cyfansoddol o fewn PPC.
Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cyhoeddi Polisi BC
Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC), sy'n cyfuno wyth Cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Cymru, wedi cyhoeddi polisi Buddsoddi Cyfrifol (BC) newydd, sy'n tynnu sylw at ei hymrwymiad i fuddsoddi'n gyfrifol a'i dyhead i arwain yn y maes hwn.
Cafodd y polisi cyffredinol newydd ei ddatblygu ar y cyd gan PPC a'i wyth Awdurdod Cyfansoddol* a bydd yn cael ei fabwysiadu gan bob un ohonynt. Ar yr un pryd, bydd yn galluogi Awdurdodau Cyfansoddol unigol i gynnal a datblygu eu polisïau BC eu hunain.
Wrth sôn am ddatblygu'r polisi BC newydd, mae Chris Moore, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol o Awdurdod Cynnal PPC, yn dweud: "Mae polisïau buddsoddi cyfrifol yn hollbwysig, nid yn unig ar gyfer gweinyddu ein cronfeydd ond ar gyfer dyfodol Cymru. Fe wnaethom gydnabod pa mor hanfodol i PPC oedd sefydlu ei pholisi buddsoddi cyfrifol ei hun a'n bwriad oedd sicrhau bod holl randdeiliaid PPC yn cael eu cynrychioli wrth ddatblygu'r polisi. Roedd ennyn cefnogaeth a dod i gonsensws ymysg yr Awdurdodau Cyfansoddol yn hanfodol. Roedd angen inni sicrhau bod y polisi yn cynrychioli'r ystod eang o gredoau buddsoddi sydd yn y Gronfa. Rydym wrth ein boddau ein bod yn gytûn â'n gilydd o ran y polisi, a bellach gellir ei roi ar waith ar ran yr Awdurdodau Cyfansoddol sy'n gyfrifol amdano. Rydym i gyd yn hynod ymroddedig i weld y Polisi BC newydd uchelgeisiol hwn yn llwyddo."
Yn ei bolisi BC newydd, mae PPC wedi cytuno i flaenoriaethu nifer o gamau gweithredu yn ystod y 12 mis nesaf, gan gynnwys datblygu polisi sy'n ymwneud yn benodol â newid yn yr hinsawdd ac ymgysylltu â'i rheolwyr buddsoddi i ddatblygu ystod o fetrigau priodol sy'n monitro BC.
Gellir dod o hyd i fersiwn lawn o bolisi BC ar ei gwefan Partneriaeth Pensiwn Cymru.
*Rhestr o'r Awdurdodau Cyfansoddol
- Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg
- Cronfa Bensiwn Clwyd
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Cronfa Bensiwn Torfaen
- Cronfa Bensiwn Gwynedd
- Cronfa Bensiwn Powys
- Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf
- Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe
Gwybodaeth am PPC
Sefydlwyd Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn 2017. Mae PPC yn gyfuniad o wyth cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Cyfansoddol) o bob rhan o Gymru ac mae'n un o wyth cronfa genedlaethol Pensiwn Llywodraeth Leol.
Mae ganddi hanes hir a llwyddiannus o gydweithio, gan gynnwys esiamplau sy'n dyddio o gyfnod cyn menter gyfuno'r Llywodraeth. Mae'n falch o'i hunaniaeth unigryw fel Cronfa - mae ei Hawdurdodau Cyfansoddol yn cynrychioli Cymru gyfan ac yn dod o bob rhan o'r wlad. Mae bod yn atebol yn ddemocrataidd yn golygu ei bod yn darparu'r gorau o ran tryloywder a llywodraethu'r sector cyhoeddus yn gadarn.
Mae model gweithredu PPC wedi cael ei ddylunio i fod yn hyblyg ac i gynnig gwerth am arian. Penodwyd Gweithredwr allanol a defnyddir ymgynghorwyr allanol er mwyn cael yr arbenigedd gorau i gefnogi gweinyddu'r Gronfa. Link Fund Solutions yw'r Gweithredwr ac mae wedi ymuno â Russell Investments i reoli'r buddsoddiadau a helpu i leihau costau rheoli buddsoddi ar gyfer yr holl Awdurdodau Cyfansoddol.
Partneriaeth Pensiwn Cymru yw cronfa fuddsoddi gyntaf y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol i benodi gweithredwr cronfa
Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru heddiw yn cyhoeddi penodiad Link Fund Solutions Ltd (Link) i sefydlu a chynnal cyfrwng buddsoddi cyfunol at ddefnydd cronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru yn unig.
Penodwyd Link yn weithredwr awdurdodedig yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn dilyn proses gaffael drylwyr gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru a'i hymgynghorwyr, Hymans Robertson a Burges Salmon. Bydd hyn yn galluogi cyfuno tua £15 biliwn o asedau ar draws ystod o ddosbarthiadau ased. Mae mandadau goddefol pob un o 8 cronfa'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru eisoes wedi'u buddsoddi ar y cyd, gan roi bod i arbedion ffi amcangyfrifedig o fwy na £2 filiwn y flwyddyn ar asedau o fwy na £3 biliwn. Mae penodi Link yn garreg filltir arall yn y broses gyfuno, gan weithio tuag at ddyddiad targed Llywodraeth San Steffan o fis Ebrill 2018.
Bydd Link yn sefydlu ac yn cynnal Cynllun Contractiol Awdurdodedig (cyfrwng buddsoddi cyfunol treth-effeithlon yn y DU) ar ran Partneriaeth Pensiwn Cymru. Bydd gan y Cynllun Contractiol Awdurdodedig is-gronfeydd mewn amryw o ddosbarthiadau ased a fydd yn diwallu anghenion yr awdurdodau buddsoddi, gan eu galluogi i roi eu gwahanol strategaethau dyrannu asedau ar waith. Gyda chefnogaeth Russell Investments a thrwy ymgynghori â'r wyth cronfa unigol ar gyfer awdurdodau lleol, bydd Link yn dechrau'r broses o benodi nifer o gwmnïau rheoli buddsoddiadau, ond bydd cronfeydd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn cadw rheolaeth lawn dros benderfyniadau dyrannu asedau strategol. Drwy ddefnyddio llai o gwmnïau rheoli buddsoddiadau ond sydd â mandadau mwy o faint, disgwylir i'r gronfa roi bod i arbedion ffi, un o brif amcanion polisi'r Llywodraeth.
Cafodd Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru ei sefydlu'n gynharach yn 2017 ac mae'n gyfrifol am oruchwylio gweithredwr y gronfa, Link, a'r gwasanaethau mae'n eu darparu i gronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru.
Y Cynghorydd Stephen Churchman, Cadeirydd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu:
“Ar ôl proses ddethol drwyadl, rydym yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Link fel y gweithredwr ar gyfer cronfa fuddsoddi Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar gyfer Cymru. Mae gan awdurdodau gweinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru hanes hir a llwyddiannus o gydweithredu. Rydym ar y trywydd iawn i gael y gronfa'n weithredol yn gynnar yn 2018, gan ddarparu arbedion ffi pellach o ran rheolwr buddsoddi, a fydd o fudd i bob cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru.”
Cyngor Sir Caerfyrddin yw'r Awdurdod Cynnal, gan gysylltu o ddydd i ddydd â'r gweithredwr, Link, ar ran holl gronfeydd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru.
Chris Moore, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin (Awdurdod Cynnal Partneriaeth Pensiwn Cymru):
“Mae penodi Link yn garreg filltir arwyddocaol o ran sefydlu cronfa fuddsoddi £15 biliwn ar gyfer cronfeydd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Link i sicrhau bod y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru yn elwa ar gyfuno buddsoddiadau.”
Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cynnwys y cronfeydd canlynol: Caerdydd a Bro Morgannwg, Dinas a Sir Abertawe, Clwyd, Dyfed, Gwent Fwyaf (Torfaen), Gwynedd, Powys a Rhondda Cynon Taf.