Dydd Mawrth 08 Rhagfyr 2020

PPC yn ennill y Wobr Arloesedd yng Ngwobrau Buddsoddi Fforwm Cronfeydd Pensiwn yr Awdurdodau Lleol (LAPF) 2020

Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill y Wobr Arloesedd yng Ngwobrau Buddsoddi Fforwm Cronfeydd Pensiwn yr Awdurdodau Lleol (LAPF) 2020.

Yn debyg i gronfeydd eraill, aethom ati i fabwysiadu dull aml-reolwr o adeiladu cronfeydd, er mwyn sicrhau'r adenillion cryfaf posibl a addaswyd yn ôl risg a sicrhau arbedion sylweddol. Fodd bynnag, mae'r wobr hon yn cydnabod ein bod wedi gwneud cam sylweddol o ran arloesi, gan fabwysiadu fframwaith "Gweithredu Portffolio Manylach" (EPI) o fewn ein cronfeydd ecwiti.

Wedi'i reoli gan Russell Investments (o fewn strwythur ein cronfa ACS sy'n cael ei gynnal gan Link Fund Solutions), mae EPI yn dwyn ynghyd nifer o bortffolios rheolwyr ecwiti yn un portffolio cyfannol. Er bod hwn yn gam newydd i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, mae hyn yn defnyddio technoleg sydd wedi'i phrofi ac yn cynnwys dau fudd sylweddol i'n hawdurdodau cynnal:

  1. Arbedion cost ystyrlon sy'n ychwanegol at yr arbedion o ran ffioedd y rheolwr a gyflawnwyd eisoes;
  2. Gwell Llywodraethu o safbwynt ESG: rydym wedi cymryd camau i ddefnyddio ~25% yn llai o garbon a hynny heb effeithio ar y buddsoddiadau. Mae hyn yn gam cadarn iawn o ran cefnogi gwaith ein hawdurdodau gweinyddu o ran eu nodau datgarboneiddio.

Nid yn unig y mae hyn wedi bod yn gam cadarn i'n haelodau, ond credwn fod y cam hwn hefyd yn dangos y gall cyfuno'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol fynd y tu hwnt i drafodaethau am ffioedd rheolwr, a chael mynediad at ail haen o arbedion costau a gwell llywodraethu.

Yn ôl