Skip to main content

Amdanom Ni

Sefydlwyd Partneriaeth Pensiwn Cymru (WWP) yn 2017. Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn gyfuniad o wyth cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Cyfansoddol) ledled Cymru ac mae'n un o wyth cronfa genedlaethol ar gyfer Pensiwn Llywodraeth Leol.

Mae gennym hanes hir o gydweithredu llwyddiannus, gan gynnwys enghreifftiau sydd dyddio o'r cyfnod cyn cynllun cyfuno'r Llywodraeth. Rydym yn falch o'n hunaniaeth unigryw fel Cronfa – mae ein Hawdurdodau Cyfansoddol yn cynrychioli ac yn cynnwys Cymru gyfan. Mae bod yn atebol yn ddemocrataidd yn golygu ein bod yn darparu'r gorau o ran llywodraethu cadarn a thryloywder yn y sector cyhoeddus.

Mae ein model gweithredu wedi'i gynllunio i fod yn hyblyg a sicrhau gwerth am arian. Rydym wedi penodi Gweithredwr allanol ac yn defnyddio ymgynghorwyr allanol er mwyn sicrhau'r arbenigwyr gorau i gefnogi'r modd y mae'r Gronfa'n cael ei chynnal. Waystone Management (UK) Limited yw'r Gweithredwr ac mae wedi ymuno â Russell Investments i reoli buddsoddiadau a helpu i leihau costau rheoli buddsoddi ar gyfer yr holl Awdurdodau Cyfansoddol.

Mae gennym weledigaeth glir ac rydym yn rheoli ein gwaith i sicrhau ein bod yn cyflawni ein hamcanion.

 

Newyddion Diweddaraf

Dydd Mercher 04 Rhagfyr 2024

Cydnabod Partneriaeth Pensiwn Cymru am Arloesi ym maes ESG

Cydnabod Partneriaeth Pensiwn Cymru am Arloesi ym maes ESG

Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn falch iawn o fod wedi cael ei chydnabod am Arloesi ym maes ESG yn sgil ennill y categori hwn yn seremoni Gwobrau Buddsoddi LGC a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2024.

Mae'r wobr yn dangos bod materion cynaliadwyedd yn parhau i fod yn hollbwysig i PPC a'i hawdurdodau cyfansoddol. Mae'n cydnabod llwyddiant y Gronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy, sydd wedi'i datblygu a'i rheoli mewn partneriaeth â Waystone Management UK Ltd a Russell Investments, sydd wedi tyfu i fod yn un o'r cronfeydd buddsoddi cynaliadwy mwyaf o'i math yn y DU.

Mae'r gronfa, a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2023, yn dwyn ynghyd yr wyth Awdurdod sylfaenol sy'n rhan o Bartneriaeth Pensiwn Cymru i fuddsoddi gyda'i gilydd mewn modd cynaliadwy am y tro cyntaf. Gan ddefnyddio fframwaith ymchwil trylwyr a dull hyblyg o addasu i themâu cynaliadwyedd sy'n datblygu, mae'r gronfa yn cynnig ateb sy'n cyd-fynd â nodau newid hinsawdd Sero Net wrth ategu'r dyraniadau ecwiti byd-eang presennol.

Fel ein partner gweithredu, mae Russell Investments yn darparu mwy na 50 mlynedd o brofiad o ymchwilio a gwerthuso rheolwyr allanol, gan ddefnyddio mewnbynnau ansoddol a meintiol i ganiatáu cyflawni portffolio aml-reolwr ar y cyd sy'n diwallu anghenion heddiw yn ogystal â gallu bodloni gofynion buddsoddi cynaliadwy yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Elwyn Williams, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Llywodraethu PPC:

"Mae arloesi a chydweithio yn hanfodol i ymateb i'r heriau hollbwysig o ran ESG y mae'r byd yn eu hwynebu heddiw. Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddarparu'r atebion buddsoddi o'r radd flaenaf er budd ein haelodau ac yn edrych ymlaen at weithio gyda'n partneriaid i fynd i'r afael â materion cynaliadwyedd hanfodol ymhellach.”

Darllen Fwy
Dydd Llun 05 Awst 2024

Partneriaeth Pensiwn Cymru yn dyfarnu contractau Buddsoddi Eiddo Tirol

Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cyhoeddi'r diweddaraf yn ei chyfres o benodiadau i hwyluso gweithredu ei datrysiadau buddsoddi Marchnadoedd Preifat.

Bydd Partneriaeth Pensiwn Cymru yn sefydlu cynnig buddsoddi Eiddo Tirol wedi'i ddatblygu o amgylch tair colofn:

  • Eiddo Tirol Craidd y DU, i gymryd buddsoddiadau presennol mewn cronfeydd ar y cyd a'u trosglwyddo, dros amser, i bortffolio buddsoddi mewn eiddo uniongyrchol penagored.
  • Eiddo Tirol Rhyngwladol, i sefydlu cyfrwng buddsoddi penagored sy'n buddsoddi mewn cronfeydd ac asedau uniongyrchol, a hynny ar sail fyd-eang.
  • Eiddo Tirol Lleol / Effaith i ddatblygu rhaglen fuddsoddi sy'n defnyddio buddsoddiadau mewn cronfeydd a buddsoddiadau mewn asedau uniongyrchol mewn strategaethau Effaith y DU, gydag o leiaf 50% o asedau wedi'u lleoli yng Nghymru.

Ar ôl cwblhau proses gaffael gyhoeddus drwyadl, gyda chefnogaeth bfinance a Hymans Robertson, mae Rheolwyr Buddsoddi Eiddo Tirol Preifat wedi cael eu penodi. Dyma'r rheolwyr a benodwyd

  • Eiddo Tirol Craidd y DU – Schroders
  • Eiddo Tirol Rhyngwladol – CBRE
  • Eiddo Tirol Lleol / Effaith  – Schroders

Dywedodd y Cynghorydd Elwyn Williams, Cadeirydd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu:

“Mae'r penodiadau hyn yn pennu'r mwyafrif o reolwyr buddsoddi marchnadoedd preifat ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru. Mae Eiddo Tirol yn ddosbarth o asedau craidd ar gyfer 8 o Awdurdodau Cyfansoddol Cymru a bydd y rheolwyr hyn yn darparu'r buddsoddiadau sydd eu hangen arnynt i fodloni eu dyraniadau asedau strategol lleol.” 

Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cynnwys y cronfeydd canlynol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol: Caerdydd a Bro Morgannwg, Dinas a Sir Abertawe, Clwyd, Dyfed, Gwent Fwyaf (Torfaen), Gwynedd, Powys a Rhondda Cynon Taf.

Darllen Fwy

Awdurdodau Cyfansoddol

Partneriaid