Skip to main content

Amdanom Ni

Sefydlwyd Partneriaeth Pensiwn Cymru (WWP) yn 2017. Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn gyfuniad o wyth cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Cyfansoddol) ledled Cymru ac mae'n un o wyth cronfa genedlaethol ar gyfer Pensiwn Llywodraeth Leol.

Mae gennym hanes hir o gydweithredu llwyddiannus, gan gynnwys enghreifftiau sydd dyddio o'r cyfnod cyn cynllun cyfuno'r Llywodraeth. Rydym yn falch o'n hunaniaeth unigryw fel Cronfa – mae ein Hawdurdodau Cyfansoddol yn cynrychioli ac yn cynnwys Cymru gyfan. Mae bod yn atebol yn ddemocrataidd yn golygu ein bod yn darparu'r gorau o ran llywodraethu cadarn a thryloywder yn y sector cyhoeddus.

Mae ein model gweithredu wedi'i gynllunio i fod yn hyblyg a sicrhau gwerth am arian. Rydym wedi penodi Gweithredwr allanol ac yn defnyddio ymgynghorwyr allanol er mwyn sicrhau'r arbenigwyr gorau i gefnogi'r modd y mae'r Gronfa'n cael ei chynnal. Waystone Management (UK) Limited yw'r Gweithredwr ac mae wedi ymuno â Russell Investments i reoli buddsoddiadau a helpu i leihau costau rheoli buddsoddi ar gyfer yr holl Awdurdodau Cyfansoddol.

Mae gennym weledigaeth glir ac rydym yn rheoli ein gwaith i sicrhau ein bod yn cyflawni ein hamcanion.

 

Newyddion Diweddaraf

Dydd Gwener 19 Medi 2025

Penodiad Prif Weithredwr ar gyfer Cwmni Rheoli Buddsoddiadau Partneriaeth Pensiwn Cymru

Penodiad Prif Weithredwr ar gyfer Cwmni Rheoli Buddsoddiadau Partneriaeth Pensiwn Cymru

Mae cynlluniau pensiwn llywodraeth leol (CPLlL) yng Nghymru (Partneriaeth Pensiwn Cymru) wedi ymuno i sefydlu cwmni gwerth sawl biliwn o bunnoedd sydd er mwyn rheoli cronfeydd buddsoddi Cronfeydd Pensiwn Cymru.

Bydd y cwmni rheoli buddsoddiadau, gwerth £25bn, yn rheoli adnoddau a gynhelir gan yr wyth cronfa CPLlL Cymru i fanteisio ar y buddion i’w 412,000 o aelodau ac i chwilio am fwy o gyfleoedd i fuddsoddi mewn prosiectau sy’n cael effaith leol, yn unol â’r argymhellion gan y Llywodraeth yn dilyn ei ymgynghoriad Fit For The Future.

Sefydlwyd Cwmni Rheoli Buddsoddiadau Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) y mis diwethaf ac mae bellach wedi penodi ei brif weithredwr cyntaf, Mr Rob Lamb.

Mae Mr Lamb, sy’n siarad Cymraeg, yn dod â phrofiad o’r sector cyhoeddus a phreifat i’r rôl, gan gynnwys swyddi arwain uwch ym maes rheoli buddsoddiadau rhyngwladol yn ogystal â dealltwriaeth gadarn o’r dirwedd fuddsoddi leol yng Nghymru, ac mae ganddo berthynas hirsefydlog â’r CPLlL yng Nghymru.

Wrth siarad am ei rôl newydd, dywedodd Mr Lamb:

“Mae’n fraint ac yn bleser cael ymuno â Cwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC ar foment mor allweddol. Mae hwn yn gyfle unigryw i greu Cwmni Buddsoddi rheoledig annibynnol yng Nghymru a fydd o fudd i bob rhanddeiliad, gan gynnwys 22 awdurdod lleol Cymru, 382 o gyflogwyr, a 412,000 o aelodau.

Bydd Cwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC yn parhau i fuddsoddi ar ran ac i ddiogelu pensiynau ei aelodau, tra hefyd yn cefnogi buddsoddiad lleol ledled Cymru a’r DU.

Trwy bartneriaeth ag eraill, rydym yn bwriadu hyrwyddo twf economaidd, creu swyddi, cefnogi ynni glân ac ehangu seilwaith er budd pawb yng Nghymru.”

Bydd gan y cwmni newydd ei bencadlys yng Nghaerdydd ac mae wedi ymrwymo i gyrraedd y targed a osodwyd gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod holl asedau CPLlL Cymru yn cael eu trosglwyddo i reolaeth y cwmni erbyn 31 Mawrth 2026.

Sefydlwyd Cwmni Rheoli Buddsoddi PPC y mis diwethaf gan Fwrdd Cyfarwyddwyr Trosiannol. Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd, Mr Chris Moore:

“Mae gyrfa Rob yn ymestyn i swyddi arwain uwch ym marchnadoedd ariannol rheoledig y sector cyhoeddus a phreifat ledled y byd, yn ogystal â sefydlu a gwerthu busnes technoleg ariannol yn llwyddiannus. Dangosodd brofiad a gallu sylweddol ac mae gan y Bwrdd Cyfarwyddwyr hyder y bydd yn cyflawni ar ran yr wyth Cronfa Bensiwn yng Nghymru.

Roedd cyfranddalwyr Cwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC yn awyddus i benodi Prif Weithredwr sydd nid yn unig yn rhannu ein nodau strategol hir-dymor ond sydd hefyd â’r arbenigedd diwydiant, yr hygrededd a’r rhwydwaith sydd eu hangen i yrru’r amcanion hyn yn eu blaenau er budd ein haelodau a Chymru yn ehangach.”

Dywedodd Cadeirydd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu (sy’n cynrychioli’r cyfranddalwyr), y Cynghorydd Peter Lewis:

“Mae cefndir a brwdfrydedd Rob dros Gymru yn ei wneud yn ddewis delfrydol i arwain y cwmni i’r cyfnod newydd hwn sy’n hanfodol.”

Mae’r Prif Weithredwr bellach yn edrych ymlaen at adeiladu ei Dîm Gweithredol i symud y prosiect i’r cam nesaf. Bydd manylion y cwmni newydd, gan gynnwys cyfleoedd gyrfa wrth iddynt godi, ar gael yn www.buddsoddiadauppc.com

Darllen Fwy
Dydd Gwener 01 Awst 2025

Cwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC

Cwmni Rheoli Buddsoddiadau Partneriaeth Pensiwn Cymru

Mae pob un o'r wyth Awdurdod Cyfansoddol bellach wedi rhoi cymeradwyaeth lawn i fwrw ymlaen â'r gwaith o ffurfio Cwmni Rheoli Buddsoddiadau Partneriaeth Pensiwn Cymru, gan gynnwys cyflwyno cais i'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol i gael ei awdurdodi'n ffurfiol.  

Lansiodd y Llywodraeth ei Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol: Addas ar gyfer y Dyfodol ar 14 Tachwedd 2024, gan amlinellu ystod o gynigion i gryfhau'r broses o reoli buddsoddiadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) mewn 3 prif faes:

1. Diwygio cronfeydd asedau CPLlL,

2. Hybu buddsoddiadau'r CPLlL yn eu hardaloedd a'u rhanbarthau yn y DU, 

3. Cryfhau trefniadau llywodraethu Awdurdodau Gweinyddu'r CPLlL a chronfeydd CPLlL 

Fel rhan o'r ymgynghoriad, gofynnodd y llywodraeth i bob cronfa ystyried a chyflwyno cynigion yn amlinellu pa mor hyfyw fyddai bodloni'r terfyn amser sef 31 Mawrth 2026 a gwahoddwyd bob cronfa i ddangos llwybr clir i fodloni'r gofynion a amlinellir yn y ddogfen ymgynghori.  

Cyflwynodd PPC Achos Busnes i'r Llywodraeth ddiwedd mis Chwefror 2025, i wneud achos dros barhau fel Cronfa Cymru ac, felly, parhau i wireddu'r manteision y mae'r Gronfa yn eu cynnig i Gymru. Cafodd hyn ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2025.

Mae PPC yn cynnig sefydlu cwmni rheoli buddsoddiadau annibynnol a awdurdodir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn unol â meini prawf y Llywodraeth a symud holl asedau PPC i gael eu rheoli gan y cwmni yn unol â'r amserlenni a amlinellwyd. Mae'r penderfyniad i ffurfio Cwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC yn gyfle unigryw i sefydlu canolfan ragoriaeth sylweddol mewn buddsoddiadau CPLlL yng Nghymru, gan greu cyfleoedd gyrfa gwerthfawr wrth wella'r sector gwasanaethau ariannol yng Nghymru. 

Mae'r wyth Awdurdod Cyfansoddol yn gwbl gefnogol i ffurfio Cwmni Rheoli Buddsoddiadau ac mae gwaith bellach yn mynd rhagddo i ddatblygu'r cwmni, gan gynnwys paratoi cais i'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Mae cyflwyniad llawn o'r Achos Busnes a'r cais Addas ar gyfer y Dyfodol i'w weld ar wefan PPC - Gwefan Partneriaeth Pensiwn Cymru

Darllen Fwy

Awdurdodau Cyfansoddol

Partneriaid