Dydd Gwener 21 Chwefror 2025

PPC yn parhau i fod yn un o lofnodwyr Cod Stiwardiaeth y DU

Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn parhau i fod yn un o lofnodwyr Cod Stiwardiaeth y DU.

https://www.frc.org.uk/investors/uk-stewardship-code/uk-stewardship-code-signatories

Mae Cod Stiwardiaeth y DU 2020 yn gosod safonau uchel ar gyfer stiwardiaeth ac mae PPC yn ceisio cyrraedd y safonau hyn drwy ei hagwedd at fuddsoddi cyfrifol. Rydym yn falch iawn, felly, ein bod wedi cadw ein statws llofnodwr ar gyfer 2024.

Un o gryfderau PPC yw'r cydweithio rhwng cronfeydd partner sylfaenol y Gronfa Gyfunol yr hoffem ddiolch iddynt am eu cyfraniad a'u cefnogaeth barhaus, wrth ddatblygu ein gwaith ar fuddsoddi cyfrifol a stiwardiaeth. Un o ganlyniadau allweddol y cydweithio hwn dros y flwyddyn oedd cyhoeddi ein Hadroddiad Hinsawdd Cymru Gyfan cyntaf, sy'n ystyried sut mae cronfeydd sylfaenol Cymru wedi datblygu o ran yr hinsawdd rhwng 2019 a 2022, gan gwmpasu'r holl asedau, nid dim ond y rhai yn y Gronfa Gyfunol. Roedd yr adroddiad yn amlinellu nifer o argymhellion a oedd yn rhoi ffocws i'n gwaith stiwardiaeth a goruchwylio dros y flwyddyn, gan gynnwys sut y gallem ddatblygu ein rhaglenni buddsoddi presennol gyda ffocws mwy cynaliadwy. Felly, cymerwyd camau cychwynnol i ystyried sut i ddatblygu ein dyraniadau ecwiti goddefol a'n his-gronfeydd incwm sefydlog. Gwnaethom hefyd ddechrau gwaith ar restr ‘ffocws hinsawdd’ sy'n benodol i PPC ar gyfer craffu manylach ar faterion y mae hinsawdd yn effeithio arnynt o fewn sectorau yr effeithir arnynt yn sylweddol, a fframwaith hinsawdd i sefydlu tacsonomeg gyffredin a dealltwriaeth ynghylch yr hinsawdd.

Y tu allan i argymhellion Adroddiad Hinsawdd Cymru Gyfan, gwnaethom barhau i weithio ar ehangu ystod ein cronfeydd drwy ein cyfres marchnadoedd preifat, gan ddatblygu cynnig buddsoddi mewn eiddo tirol a fydd yn cynnwys is-gyfrif sy'n benodol i effaith a buddsoddiad lleol.

Ni fyddai gwaith stiwardiaeth PPC wedi bod yn bosibl heb ein partneriaethau allanol. Ar ein rhan, pleidleisiodd Robeco, ein darparwr pleidleisio ac ymgysylltu, ar fwy na 15,000 o benderfyniadau a chafodd dros 900 o ymgysylltiadau corfforaethol (ar draws dros 600 o achosion ymgysylltu), gan gwmpasu ystod o faterion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu. Roeddem yn falch o gymryd rhan mewn dau o baneli cleientiaid Robeco dros y flwyddyn, yn enwedig o ystyried y themâu newydd a ddewiswyd gyda'n cymorth, sef Bioamrywiaeth y Môr a Chemegion Peryglus. Yn ogystal, buom yn cydweithio'n agos â Robeco a Russell Investments, ein darparwr datrysiadau rheoli buddsoddiadau, i gryfhau ein dull stiwardiaeth ymhellach, gan ddatblygu cyfres o egwyddorion uwchgyfeirio craidd.

Rydym yn cydnabod bod mwy o waith i'w wneud a byddwn yn parhau i ddatblygu mewn cydweithrediad â phob un o'r wyth awdurdod cyfansoddol yng Nghymru - ac aelodau eu cynlluniau pensiwn - i fod yn stiwardiaid effeithiol eu hasedau.

 

Yn ôl