Penodiad Prif Weithredwr ar gyfer Cwmni Rheoli Buddsoddiadau Partneriaeth Pensiwn Cymru
Mae cynlluniau pensiwn llywodraeth leol (CPLlL) yng Nghymru (Partneriaeth Pensiwn Cymru) wedi ymuno i sefydlu cwmni gwerth sawl biliwn o bunnoedd sydd er mwyn rheoli cronfeydd buddsoddi Cronfeydd Pensiwn Cymru.
Bydd y cwmni rheoli buddsoddiadau, gwerth £25bn, yn rheoli adnoddau a gynhelir gan yr wyth cronfa CPLlL Cymru i fanteisio ar y buddion i’w 412,000 o aelodau ac i chwilio am fwy o gyfleoedd i fuddsoddi mewn prosiectau sy’n cael effaith leol, yn unol â’r argymhellion gan y Llywodraeth yn dilyn ei ymgynghoriad Fit For The Future.
Sefydlwyd Cwmni Rheoli Buddsoddiadau Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) y mis diwethaf ac mae bellach wedi penodi ei brif weithredwr cyntaf, Mr Rob Lamb.
Mae Mr Lamb, sy’n siarad Cymraeg, yn dod â phrofiad o’r sector cyhoeddus a phreifat i’r rôl, gan gynnwys swyddi arwain uwch ym maes rheoli buddsoddiadau rhyngwladol yn ogystal â dealltwriaeth gadarn o’r dirwedd fuddsoddi leol yng Nghymru, ac mae ganddo berthynas hirsefydlog â’r CPLlL yng Nghymru.
Wrth siarad am ei rôl newydd, dywedodd Mr Lamb: “Mae’n fraint ac yn bleser cael ymuno â Cwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC ar foment mor allweddol. Mae hwn yn gyfle unigryw i greu Cwmni Buddsoddi rheoledig annibynnol yng Nghymru a fydd o fudd i bob rhanddeiliad, gan gynnwys 22 awdurdod lleol Cymru, 382 o gyflogwyr, a 412,000 o aelodau.
Bydd Cwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC yn parhau i fuddsoddi ar ran ac i ddiogelu pensiynau ei aelodau, tra hefyd yn cefnogi buddsoddiad lleol ledled Cymru a’r DU.
Trwy bartneriaeth ag eraill, rydym yn bwriadu hyrwyddo twf economaidd, creu swyddi, cefnogi ynni glân ac ehangu seilwaith er budd pawb yng Nghymru.”
Bydd gan y cwmni newydd ei bencadlys yng Nghaerdydd ac mae wedi ymrwymo i gyrraedd y targed a osodwyd gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod holl asedau CPLlL Cymru yn cael eu trosglwyddo i reolaeth y cwmni erbyn 31 Mawrth 2026.
Sefydlwyd Cwmni Rheoli Buddsoddi PPC y mis diwethaf gan Fwrdd Cyfarwyddwyr Trosiannol. Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd, Mr Chris Moore: “Mae gyrfa Rob yn ymestyn i swyddi arwain uwch ym marchnadoedd ariannol rheoledig y sector cyhoeddus a phreifat ledled y byd, yn ogystal â sefydlu a gwerthu busnes technoleg ariannol yn llwyddiannus. Dangosodd brofiad a gallu sylweddol ac mae gan y Bwrdd Cyfarwyddwyr hyder y bydd yn cyflawni ar ran yr wyth Cronfa Bensiwn yng Nghymru.
Roedd cyfranddalwyr Cwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC yn awyddus i benodi Prif Weithredwr sydd nid yn unig yn rhannu ein nodau strategol hir-dymor ond sydd hefyd â’r arbenigedd diwydiant, yr hygrededd a’r rhwydwaith sydd eu hangen i yrru’r amcanion hyn yn eu blaenau er budd ein haelodau a Chymru yn ehangach.”
Dywedodd Cadeirydd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu (sy’n cynrychioli’r cyfranddalwyr), y Cynghorydd Peter Lewis: “Mae cefndir a brwdfrydedd Rob dros Gymru yn ei wneud yn ddewis delfrydol i arwain y cwmni i’r cyfnod newydd hwn sy’n hanfodol.”
Mae’r Prif Weithredwr bellach yn edrych ymlaen at adeiladu ei Dîm Gweithredol i symud y prosiect i’r cam nesaf. Bydd manylion y cwmni newydd, gan gynnwys cyfleoedd gyrfa wrth iddynt godi, ar gael yn www.buddsoddiadauppc.com
Newyddion Arall
Gweld PopethCwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC
Cwmni Rheoli Buddsoddiadau Partneriaeth Pensiwn Cymr
Partneriaeth Pensiwn Cymru yn ailbenodi Hymans Robertson fel ei Hymgynghorydd Goruchwyliaeth
Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru ('PPC') yn falch o gy
Partneriaeth Pensiwn Cymru yn ailbenodi Robeco UK fel ei ddarparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu
Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru ('PPC') yn falch o gy