Partneriaeth Pensiwn Cymru yn penodi Robeco UK fel ei darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu
Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn falch o gyhoeddi ei bod wedi penodi Robeco UK, cangen o Robeco Institutional Asset Management B.V (‘Robeco’), fel darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu PPC. Penodwyd Robeco ar ôl cwblhau ymarfer caffael cynhwysfawr. Bydd contract Robeco yn dechrau ar 1 Ebrill 2020 a bydd yn weithredol am gyfnod cychwynnol o 3 blynedd gyda'r posibilrwydd o estyniad am 2 flynedd.
Bydd Robeco yn cynorthwyo PPC i lunio a chynnal Polisi Pleidleisio ac Egwyddorion Ymgysylltu sy'n gydnaws ag aelodaeth Awdurdodau Cyfansoddol Cymru o Fforwm Cronfeydd Pensiwn yr Awdurdodau Lleol.
Cyfrifoldeb Robeco fydd helpu PPC i lunio ei Pholisi Pleidleisio. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gyflawni mewn cydweithrediad â'r wyth Awdurdod Cyfansoddol yng Nghymru dros y chwe mis nesaf. Yn dilyn hyn, bydd Robeco yn gyfrifol am weithredu'r Polisi Pleidleisio ar draws portffolio ecwiti gweithredol PPC gwerth £5bn ac adrodd i PPC a'r cronfeydd gwaelodol.
Yn ogystal, bydd Robeco yn cynorthwyo PPC i lunio ei Hegwyddorion Ymgysylltu a bydd yn cyflawni gwaith ymgysylltu ar ran PPC yn unol â'r egwyddorion y cytunwyd arnynt. Fel rhan o faes gorchwyl Robeco, bydd yn manteisio ar brofiad llwyddiannus PPC o weithio gyda phartneriaid, llunwyr polisi a rheoleiddwyr tebyg i sicrhau bod PPC yn cyflawni'r canlyniadau ymgysylltu mwyaf effeithiol. Bydd Robeco hefyd yn darparu adroddiadau a hyfforddiant ar weithgareddau ymgysylltu PPC ar lefel y gronfa ac ar lefel awdurdod cyfansoddol.
Bydd PPC yn cyhoeddi ei Pholisi Pleidleisio a'i Hegwyddorion Ymgysylltu ar y wefan hon ar ôl iddynt gael eu cwblhau.
Mae PPC o'r farn y dylai buddsoddi cyfrifol ynghyd ag ystyriaeth a rheolaeth dystiolaethol o faterion Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu arwain at well canlyniadau i randdeiliaid PPC. Mae penodiad Robeco yn dangos bod PPC yn parhau i gyflawni'r ymrwymiadau a wnaed yn ei Pholisi Buddsoddiad Cyfrifol a'i hadduned i arfer ei hawliau pleidleisio yn unol â buddion ei rhanddeiliaid ac i ymgysylltu â chwmnïau buddsoddi i wella gwerth hirdymor buddsoddiadau'r Awdurdodau Cyfansoddol o fewn PPC.
Newyddion Arall
Gweld PopethCwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC
Cwmni Rheoli Buddsoddiadau Partneriaeth Pensiwn Cymr
Partneriaeth Pensiwn Cymru yn ailbenodi Hymans Robertson fel ei Hymgynghorydd Goruchwyliaeth
Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru ('PPC') yn falch o gy
Partneriaeth Pensiwn Cymru yn ailbenodi Robeco UK fel ei ddarparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu
Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru ('PPC') yn falch o gy