Partneriaeth Pensiwn Cymru yn lansio llwyfan incwm sefydlog
Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC), y Gronfa ar gyfer wyth cronfa Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, wedi lansio cyfres o gronfeydd incwm sefydlog ar ei llwyfan ACS presennol i ddarparu dewis o is-gronfeydd i weithredu eu buddsoddiadau incwm sefydlog yn seiliedig ar eu dyraniadau asedau strategol. Bydd pob un o'r wyth awdurdod cyfansoddol* yn buddsoddi mewn o leiaf un o'r is-gronfeydd hyn.
Bydd y buddsoddiadau newydd yn cynnwys pum is-gronfa sy'n canolbwyntio ar gredyd byd-eang, bondiau llywodraeth byd-eang, bondiau adenillion absoliwt, credyd aml-ased a chredyd y DU. Ar wahân i gredyd y DU, bydd y bedair is-gronfa arall yn cael eu rheoli gan Russell Investments ac yn defnyddio amrywiaeth o reolwyr incwm sefydlog cyffredinol ac arbenigol i sicrhau adenillion gwell wedi'u haddasu yn ôl risg.
Mae Link Fund Solutions, a benodwyd gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru fel gweithredwr a awdurdodwyd gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn 2018, yn gyfrifol am greu a gweithredu strwythur y llwyfan incwm sefydlog newydd.
Bydd strategaeth gredyd un rheolwr y DU yn lansio gyda £550 miliwn a bydd y bedair is-gronfa a reolir gan Russell Investments yn amrywio o ran maint rhwng £430 miliwn a £780 miliwn.
Wrth sôn am lansio'r llwyfan incwm sefydlog newydd, mae'r Cynghorydd Glyn Caron, Cadeirydd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu yn dweud:
"Wrth i farchnadoedd buddsoddi ddod yn fwy cymhleth, rydym yn cydnabod bod angen atebion buddsoddi mwy soffistigedig i gyflawni amcanion hirdymor ein hwyth Awdurdod Cyfansoddol*. Gan weithio gyda Russell Investments a Link Fund Solutions, credwn y bydd yr arian hwn yn rhoi'r gallu i ni sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar farchnadoedd incwm sefydlog wrth gyflawni ein hamcanion i wella arallgyfeirio a lleihau ein costau”.
Mae Jim Leggate, Rheolwr Gyfarwyddwr, Sefydliad y DU a'r Dwyrain Canol yn Russell Investment, hefyd yn dweud:
“Rydym yn falch iawn o ehangu ein perthynas â Phartneriaeth Pensiwn Cymru yn dilyn ein penodiad gwreiddiol yn 2018 fel y darparwr atebion rheoli buddsoddi. Gyda'r lansiad hwn, rydym bellach yn gyfrifol am reoli £5.2 biliwn o asedau Partneriaeth Pensiwn Cymru ar draws ecwitïau ac incwm sefydlog. Mae'r cynnydd rydym i gyd wedi'i wneud hyd yn hyn yn dyst i gydweithrediad gwych llawer o unigolion ar draws yr wyth awdurdod cyfansoddol*, gan gynnwys swyddogion, aelodau a'u hymgynghorwyr.”
Mae Eamonn Gough, Uwch-reolwr Cysylltiadau yn Link Fund Solutions yn ychwanegu:
“Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn deall yr angen i ddefnyddio ateb buddsoddi soffistigedig i gyflawni ei hamcanion buddsoddi mewn amgylchedd marchnad heriol. Credwn fod y llwyfan hwn yn bodloni'r gofynion hyn ac yn caniatáu i Bartneriaeth Pensiwn Cymru gael gafael ar arbenigedd rhai o brif reolwyr incwm sefydlog y byd.”
Y DIWEDD
Rhagor o wybodaeth:
partneriaethpensiwncymru@sirgar.gov.uk
Nodyn i Olygyddion:
* Rhestr o'r Awdurdodau Cyfansoddol
- Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg
- Cronfa Bensiwn Clwyd
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Cronfa Bensiwn Torfaen
- Cronfa Bensiwn Gwynedd
- Cronfa Bensiwn Powys
- Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf
- Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe
Gwybodaeth am PPC
Sefydlwyd Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn 2017. Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn gyfuniad o wyth cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Cyfansoddol) sy'n cwmpasu Cymru gyfan ac yn un o wyth cronfa genedlaethol Pensiwn Llywodraeth Leol.
Mae ganddi hanes hir a llwyddiannus o gydweithio, gan gynnwys enghreifftiau cyn menter gyfuno'r Llywodraeth. Mae'n falch o'i hunaniaeth unigryw fel Cronfa – mae ei Hawdurdodau Cyfansoddol yn cynrychioli ac yn rhychwantu Cymru gyfan. Mae bod yn atebol yn ddemocrataidd yn golygu ei bod yn darparu'r drefn orau o lywodraethu sector cyhoeddus mewn modd tryloyw.
Mae model gweithredu Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi'i ddylunio i fod yn hyblyg ac i roi gwerth am arian. Roedd wedi penodi Gweithredwr allanol ac mae'n defnyddio ymgynghorwyr allanol i gael yr arbenigedd gorau i gefnogi'r modd y mae'r Gronfa'n cael ei rhedeg. Link Fund Solutions yw'r Gweithredwr ac mae wedi ymuno â Russell Investments i reoli buddsoddiadau a helpu i leihau costau rheoli buddsoddi ar gyfer yr holl Awdurdodau Cyfansoddol.
Newyddion Arall
Gweld PopethPartneriaeth Pensiwn Cymru yn ailbenodi Hymans Robertson fel ei Hymgynghorydd Goruchwyliaeth
Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru ('PPC') yn falch o gy
Partneriaeth Pensiwn Cymru yn ailbenodi Robeco UK fel ei ddarparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu
Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru ('PPC') yn falch o gy
PPC yn parhau i fod yn un o lofnodwyr Cod Stiwardiaeth y DU
Darllen Fwy