Dydd Llun 01 Gorffennaf 2024

Mae Waystone Management (UK) Limited yn cael ei ailbenodi fel gweithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru

Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn falch o gyhoeddi bod Waystone Management (UK) Limited (Waystone) wedi'i ailbenodi i weithredu'r gronfa. Ailbenodwyd Waystone yn weithredwr awdurdodedig yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn dilyn proses gaffael drylwyr gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru a'i hymgynghorwyr, Hymans Robertson a Burges Salmon.

Mae pob un o'r 8 Awdurdod Cyfansoddol yng Nghymru eisoes wedi buddsoddi ar y cyd mewn £13bn (fel ar ddiwedd mis Mawrth 2024) o asedau cyfunol gyda Waystone ar draws ystod o strategaethau buddsoddi.

Bydd Waystone, sef y Cyfarwyddwr Corfforaethol Awdurdodedig annibynnol mwyaf yn y DU, yn parhau i weithredu Cynllun Contractiol Awdurdodedig (cyfrwng buddsoddi cyfunol sy'n effeithlon o ran treth y DU) ar ran PPC. Mae gan y Cynllun Contractiol Awdurdodedig ddeg is-gronfa ar draws ecwitïau ac incwm sefydlog sy'n diwallu anghenion yr Awdurdodau, gan eu galluogi i weithredu eu strategaethau dyrannu asedau priodol. Gyda chefnogaeth Russell Investments, bydd Waystone yn parhau i gyflawni arbedion sylweddol o ran ffioedd.

Dywedodd Chris Moore, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin, 'Fel yr awdurdod cynnal ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru, rydym wrth ein bodd bod Waystone wedi bod yn llwyddiannus eto ac yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'r tîm’.

Dywedodd Karl Midl, Pennaeth Gwlad, y Deyrnas Unedig: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael ein hailbenodi i weithredu fel Gweithredwr i'r Cynllun Contractiol Awdurdodedig er budd cronfa fuddsoddi Partneriaeth Pensiwn Cymru. Mae ein partneriaeth barhaus yn dyst i'r gwasanaeth eithriadol y mae ein tîm wedi'i ddarparu dros y chwe blynedd a hanner diwethaf, ac edrychwn ymlaen at barhau i gefnogi anghenion Partneriaeth Pensiwn Cymru wrth iddynt hefyd barhau i esblygu a thyfu.” 

Dywedodd Rachel Wheeler, Pennaeth Cynnyrch Byd-eang Regulated Fund Solutions: “Fel y chwaraewr mwyaf ym marchnad y DU, rydym yn dod â gwytnwch gweithredol heb ei ail, gan sicrhau gwasanaethau cadarn i'n cleientiaid. Mae gennym hanes hir a llwyddiannus o gydweithio â Phartneriaeth Pensiwn Cymru ac rydym yn gyffrous i archwilio cyfleoedd newydd i ehangu ein partneriaeth yn y blynyddoedd i ddod.”

Yn ôl