Dydd Llun 02 Tachwedd 2026

Datganiad PPC ar waharddiadau a dadfuddsoddi

Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cymryd ei chyfrifoldebau fel perchennog asedau o ddifrif. Ein nod yw bod yn stiwardiaid cyfrifol a gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod ein buddsoddiadau yn adlewyrchu ein gwerthoedd a'n rhwymedigaethau cyfreithiol. Rydym yn sicrhau bod ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu (ESG) yn rhan o'n gwaith stiwardiaeth a buddsoddi. Mae hyn yn cwmpasu materion fel newid yn yr hinsawdd, hawliau dynol a thorri cyfraith ryngwladol. 

Rydym wedi ymroi i wrando, deall ac ymateb yn agored ac yn gyfrifol i bryderon ein haelodau, yn unol â'n dyletswyddau cyfreithiol a chanllawiau diweddaraf y Bwrdd Cynghori ar y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. 

Mae gennym ymagwedd aml-haen at stiwardiaeth. Robeco yw ein Darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu penodedig, ac rydym hefyd yn aelodau o Fforwm Cronfa Bensiwn yr Awdurdod Lleol. Mae'r ddau yn ymgysylltu â chwmnïau ar ein rhan i ysgogi gwelliannau i arferion ac adroddiadau, ac i'n helpu i leihau risgiau yn ein buddsoddiadau. Rydym yn derbyn adroddiadau rheolaidd ar eu cynnydd, sy'n llywio ein penderfyniadau. Os na lwyddir i ymgysylltu â chwmni nad yw'n adlewyrchu ein gwerthoedd a'n rhwymedigaethau cyfreithiol, rydym yn trafod camau gweithredu posibl gyda'n rheolwyr buddsoddi, a bydd dadfuddsoddi yn ganlyniad posibl.

Yn gynharach eleni, fel rhan o'n Polisi Buddsoddi Cyfrifol, fe wnaethom ddatblygu polisi gwaharddiadau i wahardd buddsoddiadau mewn cwmnïau sy'n ymwneud yn sylweddol â glo thermol ac olew a nwy anghonfensiynol, sy'n cynhyrchu arfau dadleuol, a chwmnïau sy'n mynd yn groes i arferion normal byd-eang yn barhaus. Yn amodol ar gymeradwyaeth reoleiddiol derfynol, bydd y polisi gwaharddiadau yn dechrau dod i rym yn y misoedd nesaf.

Yn ôl