Dydd Llun 17 Tachwedd 2025

Datganiad PPC ar waharddiadau a dadfuddsoddi

Datganiad PPC ar waharddiadau a dadfuddsoddi

Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn cymryd ei chyfrifoldebau fel perchennog asedau o ddifrif. Rydym yn anelu at fod yn stiwardiaid cyfrifol, ac yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod ein buddsoddiadau yn adlewyrchu ein gwerthoedd a'n rhwymedigaethau cyfreithiol. Rydym yn adeiladu ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu yn ein gwaith buddsoddi a stiwardiaeth. Mae hyn yn cwmpasu materion fel newid yn yr hinsawdd, hawliau dynol a thorri cyfraith ryngwladol. 

Rydym wedi ymrwymo i wrando, deall ac ymateb yn agored ac yn gyfrifol i bryderon ein haelodau, gan ddilyn ein dyletswyddau cyfreithiol a'r canllawiau diweddaraf gan Fwrdd Cynghori Cynllun CPLlL.

Rydym yn cymryd ymagwedd aml-haenog at stiwardiaeth. Robeco yw ein Darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu penodedig, ac rydym hefyd yn aelodau o Fforwm Cronfa Bensiwn yr Awdurdodau Lleol. Mae'r ddau barti yn ymgysylltu â chwmnïau ar ein rhan i sbarduno gwelliannau mewn arferion ac adroddiadau, ac i'n helpu i leihau risgiau yn ein buddsoddiadau. Rydym yn derbyn adroddiadau rheolaidd ar eu cynnydd, sy'n llywio ein penderfyniadau. Os bydd ymgysylltu â chwmni nad yw'n adlewyrchu ein gwerthoedd a'n rhwymedigaethau cyfreithiol yn methu, rydym yn trafod camau gweithredu posibl gyda'n rheolwyr buddsoddi, ac mae dadfuddsoddi yn ganlyniad posibl.

Mae gan rai o'n strategaethau buddsoddi eithriadau penodol eisoes, sy'n golygu nad ydym yn buddsoddi mewn cwmnïau sy'n ymwneud â, er enghraifft, tybaco, olew palmwydd, arfau dadleuol a mwyngloddio glo. Ar hyn o bryd rydym yn adolygu ein fframwaith buddsoddi, gan gynnwys eithriadau a allai fod yn berthnasol i bob buddsoddiad PPC, lle bo hynny'n bosibl. Rydym yn disgwyl gorffen yr adolygiad hwn erbyn dechrau 2026.

Yn ôl