Dydd Mercher 04 Rhagfyr 2024

Cydnabod Partneriaeth Pensiwn Cymru am Arloesi ym maes ESG

Cydnabod Partneriaeth Pensiwn Cymru am Arloesi ym maes ESG

Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn falch iawn o fod wedi cael ei chydnabod am Arloesi ym maes ESG yn sgil ennill y categori hwn yn seremoni Gwobrau Buddsoddi LGC a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2024.

Mae'r wobr yn dangos bod materion cynaliadwyedd yn parhau i fod yn hollbwysig i PPC a'i hawdurdodau cyfansoddol. Mae'n cydnabod llwyddiant y Gronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy, sydd wedi'i datblygu a'i rheoli mewn partneriaeth â Waystone Management UK Ltd a Russell Investments, sydd wedi tyfu i fod yn un o'r cronfeydd buddsoddi cynaliadwy mwyaf o'i math yn y DU.

Mae'r gronfa, a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2023, yn dwyn ynghyd yr wyth Awdurdod sylfaenol sy'n rhan o Bartneriaeth Pensiwn Cymru i fuddsoddi gyda'i gilydd mewn modd cynaliadwy am y tro cyntaf. Gan ddefnyddio fframwaith ymchwil trylwyr a dull hyblyg o addasu i themâu cynaliadwyedd sy'n datblygu, mae'r gronfa yn cynnig ateb sy'n cyd-fynd â nodau newid hinsawdd Sero Net wrth ategu'r dyraniadau ecwiti byd-eang presennol.

Fel ein partner gweithredu, mae Russell Investments yn darparu mwy na 50 mlynedd o brofiad o ymchwilio a gwerthuso rheolwyr allanol, gan ddefnyddio mewnbynnau ansoddol a meintiol i ganiatáu cyflawni portffolio aml-reolwr ar y cyd sy'n diwallu anghenion heddiw yn ogystal â gallu bodloni gofynion buddsoddi cynaliadwy yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Elwyn Williams, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Llywodraethu PPC:

"Mae arloesi a chydweithio yn hanfodol i ymateb i'r heriau hollbwysig o ran ESG y mae'r byd yn eu hwynebu heddiw. Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddarparu'r atebion buddsoddi o'r radd flaenaf er budd ein haelodau ac yn edrych ymlaen at weithio gyda'n partneriaid i fynd i'r afael â materion cynaliadwyedd hanfodol ymhellach.”

Yn ôl