Dydd Gwener 01 Awst 2025

Cwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC

Cwmni Rheoli Buddsoddiadau Partneriaeth Pensiwn Cymru

Mae pob un o'r wyth Awdurdod Cyfansoddol bellach wedi rhoi cymeradwyaeth lawn i fwrw ymlaen â'r gwaith o ffurfio Cwmni Rheoli Buddsoddiadau Partneriaeth Pensiwn Cymru, gan gynnwys cyflwyno cais i'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol i gael ei awdurdodi'n ffurfiol.  

Lansiodd y Llywodraeth ei Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol: Addas ar gyfer y Dyfodol ar 14 Tachwedd 2024, gan amlinellu ystod o gynigion i gryfhau'r broses o reoli buddsoddiadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) mewn 3 prif faes:

1. Diwygio cronfeydd asedau CPLlL,

2. Hybu buddsoddiadau'r CPLlL yn eu hardaloedd a'u rhanbarthau yn y DU, 

3. Cryfhau trefniadau llywodraethu Awdurdodau Gweinyddu'r CPLlL a chronfeydd CPLlL 

Fel rhan o'r ymgynghoriad, gofynnodd y llywodraeth i bob cronfa ystyried a chyflwyno cynigion yn amlinellu pa mor hyfyw fyddai bodloni'r terfyn amser sef 31 Mawrth 2026 a gwahoddwyd bob cronfa i ddangos llwybr clir i fodloni'r gofynion a amlinellir yn y ddogfen ymgynghori.  

Cyflwynodd PPC Achos Busnes i'r Llywodraeth ddiwedd mis Chwefror 2025, i wneud achos dros barhau fel Cronfa Cymru ac, felly, parhau i wireddu'r manteision y mae'r Gronfa yn eu cynnig i Gymru. Cafodd hyn ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2025.

Mae PPC yn cynnig sefydlu cwmni rheoli buddsoddiadau annibynnol a awdurdodir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn unol â meini prawf y Llywodraeth a symud holl asedau PPC i gael eu rheoli gan y cwmni yn unol â'r amserlenni a amlinellwyd. Mae'r penderfyniad i ffurfio Cwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC yn gyfle unigryw i sefydlu canolfan ragoriaeth sylweddol mewn buddsoddiadau CPLlL yng Nghymru, gan greu cyfleoedd gyrfa gwerthfawr wrth wella'r sector gwasanaethau ariannol yng Nghymru. 

Mae'r wyth Awdurdod Cyfansoddol yn gwbl gefnogol i ffurfio Cwmni Rheoli Buddsoddiadau ac mae gwaith bellach yn mynd rhagddo i ddatblygu'r cwmni, gan gynnwys paratoi cais i'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Mae cyflwyniad llawn o'r Achos Busnes a'r cais Addas ar gyfer y Dyfodol i'w weld ar wefan PPC - Gwefan Partneriaeth Pensiwn Cymru

Yn ôl